Mary King Sarah

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:50, 21 Chwefror 2020 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mary King Sarah

Yn wreiddiol o Dal-y-sarn, roedd Mary King Sarah (1885-1965) yn enwog fel cantores; fe enillodd hi sawl wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pherfformiodd ar hyd a lled Cymru ac America.

Cefndir

Magwyd Mary King Sarah yn Nhal-y-sarn, gyda'i rhieni, ei brodyr a’i chwiorydd (yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd yn byw yn Rhiwlas Road yn Nhal-y-sarn gyda’i thad a'i mam, ac roedd yn un o bum plentyn.) Tyfodd Mary i fyny a cherddoriaeth yn ei gwaed gyda dau riant cerddorol. Roedd ei thad, Thomas Edwin Sarah yn arweinydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle am bum deg mlynedd. Mudodd Thomas Sarah i Dal-y-sarn pan oedd yn blentyn ac fe weithiodd ef a’i dad fel gyrwyr a pheirianwyr yn y chwarel. Roedd ei mam, Sarah Sarah yn gantores adnabyddus (Seren Aerau).

Roedd gan Mary ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth er pan oedd hi’n blentyn yn Ysgol Tal-y-sarn. Roedd hi’n cymryd rhan mewn gwasanaethau yng nghapel Seion ar Ddydd Sul ac mewn digwyddiadau eraill yn Nyffryn Nantlle. Roedd hi'n canu'n aml mewn cyngherddau, yn aml yn yr un rhai â'r Brodyr Francis, ac roedd hi'n gantores boblogaidd a diffuant yng nghyfarfodydd y Diwygiad o 1904 ymlaen.

Yn 21 mlwydd oed fe gystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906 a derbyn tair gwobr gyntaf. Cystadlodd yn erbyn Ivor Novello a hi a dderbyniodd y wobr gyntaf.

Yn 1909 fe gafodd y cyfle i fynd draw i America gyda Chôr Meibion Brenhinol y Moelwyn. Pan oedd yno dechreuodd gael ei hadnabod a phenderfynodd ei bod eisiau aros. Pan adawodd Ddyffryn Nantlle am ei bywyd yn America fel ‘The Welsh Nightingale’, derbyniodd rodd gan drigolion y dyffryn sef oriawr a chadwyn aur. Mae'r rhodd honno nawr yn nwylo Cefin Roberts o Lanllyfni, perthynas iddi.

Llinell Amser - America

Dechreuodd ei bywyd yn America yn 1909 yn 24 mlwydd oed. Yn fuan ar ôl mudo yno fe fudodd ei rhieni a’i dwy chwaer ati.

Yn 28 mlwydd oed priododd Leonard Ernst Schoen. Gyda chanu'n rhoi straen ar ei llais a'i chorff, penderfynodd droi am nyrsio. Daeth Mary yn feichiog yn 1914 ond bu farw eu mab cyntaf, Osborn, ar ei enedigaeth. Cawsant ail fab o’r enw Hayden, a gafodd fyw i fod yn 50 oed. Daeth tro ar fyd wedi geni Hayden. Ar Fai 27ain 1916 bu farw ei thad yn 61 mlwydd oed ar yr un diwrnod ag y collodd hithau ei thrydydd plentyn ar ei enedigaeth. Ganwyd ei merch gyntaf yn 1918, Evelyn Louise Devine, ar Ragfyr 24ain 1918, a merch arall wedyn ar Chwefror 27ain 1923, Doris May.

Yn 1923,dim ond pum mis ar ôl genedigaeth Doris, bu farw gŵr Mary. I gynnal y teulu aeth Mary i weithio mewn siop ddillad merched ac mewn swyddfa. Ond ni throdd ei chefn ar ganu. Pan oedd yn Waukesha, Milwaukee fe gasglodd Gymry’r ardal ynghyd a ffurfiodd y Cymric Choral Society. Fe’u gwahoddwyd i ganu mewn côr o chwe chant yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1933.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd aeth Mary i weithio i Gwmni Moduron Waukesha a pharhaodd yn brysur yn cefnogi Cymanfaoedd Canu. Yn 1946 priododd Evan. L. Thomas, perchennog gwasg Waukesha. Hannai ei deulu o Geredigion. Yn 1951 fe fu farw ei hail ŵr ac aeth hithau i fyw gyda'i merch Evelyn a’i gŵr yn Efrog Newydd.

Yn 1959 fe ymwelodd Mary â Chymru am y tro olaf gyda chôr o America. Buont mewn eisteddfodau lleol ac Eisteddfod Gydwladol Llangollen a chafodd ei chroesawu’n aelod o’r Orsedd yng Nghastell Caernarfon wythnos y Brifwyl yn yr hen dre.

Yn 1960 a 1961 ymwelodd â Phoenix, Arizona ac yno priododd am y trydydd tro â’r Parch David Lewis Jones. Bu ef farw yn 1962 ac fe aeth hi i fyw gyda'i theulu yn North Syracuse, Efrog Newydd. Bu hithau farw yn Efrog Newydd yn 1965 yn 80 oed.

Cerdd ffarwelio

Ysgrifennodd Griffith Francis benillion addas iawn i gofio am Mary King cyn iddi adael am America:

Mary King

Beth ddaeth dros dy galon Mary? Mary, beth sy’n codi i’th ben? Wyt ti wedi blino canu Ar lwyfanau Cymru wen? Pam yr ei o Ddyffryn Nantlle I’r Amerig gyda’r Côor? Wyt ti’n meddwl am dy gartre’ Yn y wlad tu hwnt i’r môor?

Maddau im am ofyn cwestiwn Efo’r tannau ar ‘Llwyn Onn’. Nid wyf fi ond carreg ateb I galonau’r dyrfa hon; Pan hêd brâan a’i chwrawc o’r dalaith Caiff brain eraill lai o gam; Pan hed eos annwyl ymaith Fe fydd pawb yn gofyn pam…"