Mary King Sarah

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:48, 17 Chwefror 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mary King Sarah

Yn wreiddiol o Dal-y-sarn, roedd Mary King Sarah (1885-1965) yn enwog fel cantores; fe enillodd hi sawl wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pherfformiwyd ar draws Cymru ac America.

Cefndir

Magwyd Mary King Sarah yn Nhalysarn, gyda'i rhieni, ei brodyr a’i chwiorydd (yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd yn byw yn Rhiwlas Road yn Nhalysarn gyda’i thad, mam, ac oedd yn un o bum plentyn.) Tyfodd Mary fyny gyda cherddoriaeth yn ei gwaed gyda dau riant cerddorol. Roedd ei thad, Thomas Edwin Sarah yn arweinydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle am bum deg mlynedd. Symudodd Thomas Sarah i Dalysarn pan roedd yn blentyn ac fe weithiodd ef a’i dad fel gyrwyr a mecaneg yn y chwarel. Roedd ei mam, Sarah Sarah yn gantores adnabyddus (Seren Aerau).

Roedd gan Mary basiwn am gerddoriaeth ers oedd hi’n blentyn yn Ysgol Tal-y-sarn. Roedd hi’n cymryd rhan mewn gwasanaethau yng nghapel Seion ar Ddydd Sul ac mewn digwyddiadau eraill yn Nyffryn Nantlle. Roedd hi'n canu'n aml mewn cyngherddau, yn aml yn yr un rhai â'r Brodyr Francis, ac roedd hi'n gantores boblogaidd a diffuant mewn cyfarfodydd y Diwygiad o 1904 ymlaen.

Yn 24 mlwydd oed fe gystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1909 a derbyn tair gwobr. Cystadlodd yn erbyn Ivor Novello ac fe derbyniodd hi'r wobr gyntaf.

Yn 1909 fe gafodd y cyfle i fynd draw i America gyda Chôr Meibion Brenhinol Moelwyn. Pan yno dechreuodd cael ei hadnabod a phenderfynodd ei bod eisiau aros. Pan adawodd am ei bywyd yn America fel ‘The Welsh Nightingale’, derbyniodd wobr a rhoddwyd gan y dyffryn sef oriawr a chadwyn aur. Mae'r anrhydedd honno nawr yn nwylo Cefin Roberts o Lanllyfni.

Llinell Amser - America

Dechreuodd ei bywyd yn America yn 1909 yn 24 mlwydd oed. Yn fuan ar ôl symud yno fe symudodd ei rhieni a’i dwy chwaer ati. Yn 28 mlwydd oed priododd Leonard Ernst Schoen. Gyda chanu'n rhoi straen ar ei llais a'i chorff, penderfynodd droi am nyrsio. Daeth Mary yn feichiog yn 1914 ond bu farw eu mab cyntaf, Osborn, y diwrnod hwnnw yn ystod genedigaeth. Yn lwcus iddi, cawsant ail fab o’r enw Hayden, bu fyw Hayden tan oedd yn 50 oed. Buan newidiodd pethau wedi geni Hayden, ar Fai 27ain 1916 bu farw ei thad yn 61 mlwydd oed a’i thrydydd plentyn ar y diwrnod a anwyd yn 1916 hefyd. Ganwyd ei merch gyntaf yn 1918, Evelyn Louise Devine, ar Rhagfyr 24ain 1918, a merch arall wedyn ar Chwefror 27ain 1923, Doris May.

Yn 1923,dim ond pum mis ar ôl genedigaeth Doris mae gŵr Mary yn marw. Trowyd Mary at weithio mewn siop ddillad merched ac mewn swyddfa i gynnal y teulu. Pan oedd yn Waukesha, Milwaukee fe gasglodd Cymry’r ardal ynghyd a ffurfiodd y Cymric Choral Society. Fe’u gwahoddwyd i ganu mewn côr o chwe chant yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1933.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd aeth Mary i weithio i Gwmni Moduron Waukesha a pharhaodd yn brysur yn cefnogi Cymanfaoedd Canu. Yn 1946 priododd Evan. L. Thomas, perchennog gwasg Waukesha y daeth ei deulu o Geredigion. Yn 1951 fe fu farw ei hail ŵr a symudodd hithau i fyw gyda'i merch Evelyn a’i gŵr yn Efrog Newydd.

Yn 1959 fe ymwelodd Mary â Chymru am y tro olaf gyda chôr o America ac ymwelodd ag eisteddfodau lleol ac Eisteddfod Gydwladol Llangollen a chafodd ei chroesawu’n aelod o’r Orsedd yng Nghastell Caernarfon wythnos y Brifwyl yn yr hen dre.

Yn 1960 a 1961 ymwelodd â Phoenix, Arizona ac yno priododd am y trydydd tro gyda’r Parch David Lewis Jones. Bu ef farw yn 1962 ac fe aeth hi i fyw gyda'i theulu yn North Syracuse, Efrog Newydd. Fe fu farw hithau yn 1965 yn 80 oed yn Efrog Newydd.

Cerdd ffarwelio

Ysgrifennodd Griffith Francis benillion addas iawn i gofio am Mary King cyn iddi adael am America:

Mary King

Beth ddaeth dros dy galon Mary? Mary, beth sy’n codi i’th ben? Wyt ti wedi blino canu Ar lwyfanau Cymru wen? Pam yr ei o Ddyffryn Nantlle I’r Amerig gyda’r Cor? Wyt ti’n meddwl am dy gartre’ Yn y wlad tu hwnt i’r mor?

Maddau im am ofyn cwestiwn Efo’r tannau ar ‘Llwyn Onn’. Nid wyf fi ond carreg ateb I galonau’r dyrfa hon; Pan hêd bran a’i chwrawc o’r dalaith Caiff brain eraill lai o gam; Pan heb eos annwyl ymaith Fe fydd pawb yn gofyn pam…