Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:05, 8 Tachwedd 2017 gan Marian elias (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Treflan fechan ar lan Afon Carrog ac Afon Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon yw'r Dolydd. Saif ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.

Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos Capel Bryn'rodyn, cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones (Plas Dolydd) yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.

Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.

Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.

Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.