Hwlcyn Llwyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:17, 21 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hwlcyn Llwyd (marw 1403) oedd y cyntaf o'i deulu y gallwn fod yn sicr ei fod yn byw ym mhlasty Glynllifon. Roedd o'n fab i Tudur Goch o Blas Nantlle a'i wraig Morfudd ferch Hywel, ei chweched cyfnither ac aeres Glynllifon. Ni fuoff o'n ochri efo Owain Glyndŵr yn ystod y rhefeloedd yn erbyn y Saeson, ond yn hytrach mi wnaeth fwrw ei goelbren gyda Brenin Lloegr. Cafodd y swyddogaeth o dan William de Tranmere, uchel swyddog y brenin, o warchod Castell Caernarfon rhag Glyndŵr ac yno y bu farw ym 1403.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262