Afon Wen (Llandwrog)
Afon Wen yw enw'r afon fechan sydd yn codi yn y corsydd gerllaw Cae Haidd ger Capel-y-bryn ac yn llifo ar draws y caeau nes uno ag Afon Carrog ychydig i'r dwyrain o'r Dolydd. Arferai gyflenwi cronfa ddŵr Ffynnon Wen a godwyd i gyflenwi'r ardal gyda dŵr yn nechrau'r 20g.[1]
Ni ddylid ei cymysgu gyda'r Afon Wen sydd yn rhedeg o ardal Bwlch Derwin i gyfeiriad y de heibio Chwilog.
Cyfeiriadau
- ↑ Traethawd ar Reilffordd Gul i'r Bryngwyn, gan John Hughes, Llain Fadyn; mewn dwylo preifat