Capel Libanus (MC), Pant-glas
Mae Capel Libanus yn sefyll ar ochr ddwyreiniol yr A487 yng nghanol pentref Pant-glas yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr. Capel sy'n perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd ydyw, ond er ei fod yn Uwchgwyrfai, mae'n rhan o Henaduriaeth Eifionydd.
Fe'i godwyd ym 1868.[1] Mae'n hynod oherwydd fod y tŷ capel wrth ei ochr ac wedyn mae'r festri, y tri a'u mynedfeydd oddi ar y pafin cyhoeddus a heb eu cysylltu a'i gilydd.
Dyma'r capel y magwyd y canwr Bryn Terfel ynddo.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma