Gareth Maelor Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:12, 30 Gorffennaf 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, ac ar ôl cyfnod yn y Weinidogaeth Bresbyteraidd yn Harlech a Phen Llŷn, daeth y Parchedig Gareth Maelor Jones i Uwchgwyrfai fel warden Cartref Bontnewydd; yn y man fe symudodd i fod yn bennaeth Adran Ysgrythur yn Ysgol Dyffryn Nantlle, gan fyw ym mhentref Dinas, Llanwnda. Bu'n gyfrifol, ar y cŷd â'r Parch. Harri Parri, am sefydlu Gwasg Tŷ ar y Graig. Yn ystod ei gyfnod fel athro ym Mhen-y-groes, bu'n rhannol gyfrifol am sefydlu siop lyfrau Cymraeg a fu'n weddol lwyddiannus am nifer o flynyddoedd. Fe ymddeolodd o'r swydd honno ym 1996.[1]

Fe'i urddwyd yn Dderwydd er Anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cylch, Meifod, 2003.

Roedd Gareth Maelor (fel y'i galwyd yn aml, heb y Jones) yn awdur toreithiog, yn bennaf ar themâu crefyddol - ond heb fod yn drymaidd, ac wedi'u hanelu at ddarllenwyr iau. Bu hefyd yn olygydd cylchgrawn plant y Methodistiaid Calfinaidd.[2]

Bu farw yn 2006.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan "North Wales Live", [1]
  2. Gwybodaeth bersonol; manylion oddi ar Wicipedia.