Afon Tâl
Mae Afon Tâl yn codi ger Llethr-ddu yng Nghwm Coryn ac yn llifo heibio Pen-llechog. Bu'n troi Melin Penllechog a Melin ŵlan Llanaelhaearn cyn troi tua'r gogledd, gan lifo heibio i Elernion a thrwy bentref Trefor, gan ymarllwys i'r môr ar y traeth ychydig i'r gorllewin o'r cei ac ychydig i'r dwyrain o Drwyn y Tâl. Dyma afon fwyaf orllewinol Uwchgwyrfai ac mae'n rhedeg ar ei hyd trwy blwyf Llanaelhaearn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma