Thomas Savin
Roedd Thomas Savin yn gyfrifol am lawer o'r rheilffyrdd a adeiladwyd yng Ngogledd Cymru. Yn fasnachwr o Drefonnen, Swydd Amwythig, roedd yn fasnachwr yng Nghroesoswallt cyn mentro i fyd adeiladu rheilffyrdd, ac er iddo gael ei wneud yn fethdalwr, parhaodd i weithredu fel peiriannydd a hyrwyddwr Rheilffordd Sir Gaernarfon, ar y cyd â Benjamin Piercy. Mae yna le i gredu iddo fod yn Gymro o ran iaith.