Teulu Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:45, 6 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Teulu Cwellyn wedi mabwysiadu eu cyfenw oddi wrth eu cartref, sef plasty bach Cwellyn - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i deulu'r Glynniaid, Glynllifon). Arferid sillafu'r cyfenw yn Quellyn.

Achres gynnar

Roedd y teulu'n disgynyddion honedig Cilmin Droed-ddu, fel Teulu Glynllifon, trwy Gruffydd ap Tudur Goch ap Grono ab Einion ab Ifan ab Iorwerth Goch ab Ystrwyth ab Ednowain. Roedd Gruffydd yn frawd hŷn Hwlcyn Llwyd, sylfaenydd tras Glynllifon. Bu i or-or-ŵyr Gruffydd, William Williams o Gwellyn briodi Jane, cyd-aeres William Peak o Gaernarfon tua 1610-20.

Morgan Quellyn Eu mab nhw, Morgan Williams, a fabwysiadodd y cyfenw Quellyn; fe briododd ag Elen Griffith Wynn, Glan'rafon Bach, rywbryd cyn 1647. Mewn llythyr a anfonodd Elen at ei gefnder, Maurice Williams, Hafodgaregog, ym 1647 dywedir fod William Quellyn wedi benthyg arian trwy forgeisio ei dir yn Nanmor, sef Hafod Gau a Choed Mab Ednyfed gan Maurice Williams; erbyn 1665 nid oedd yr arian wedi ei dalu'n ôl - tybed ai dyma arwydd fod y teulu eisoes â phroblemau ariannol.[1]

Cofeb y teulu yn Eglwys Llanwnda
Cofeb yn Eglwys Llanwnda

Ellis Quellyn

Mab Morgan oedd Ellis Quellyn (bu farw 1719) a briododd Grace, merch Hugh Wynn, Pengwern, Llanwnda. Cafodd y rhain nifer o blant, sef Hugh (1670-1749), William (William I), a Margaret. Sonnir am y ddau frawd isod; o ran Margaret, gwyddom ei bod wedi priodi ddwywaith, yn gyntaf â Richard Parry, Pyllaubudron, ac yn ail, â Humphrey Humphreys, gŵr o Fangor.

Er bod Ellis Quellyn yn galw ei hun yn fonheddwr ("Gent."), dim ond rhyw £15 oedd ei werth o yn ôl rhestr o'i holl eiddo wedi iddo farw ym 1719. Mae'n ddiddorol nodi hefyd mai ffermio Cwm Bychan ym mhlwyf Llanwnda yr oedd o, er nad oedd ganddo ond dwy fuwch, dau lo a chaseg yno - er rhaid cofio ei fod yn bur hen yn marw. Mae'n bur debyg fod Hugh ei fab wedi symud i fewn i fferm fwy llewyrchus Cwellyn ei hun.

Hugh Quellyn

Dichon bod Hugh Quellyn yn arfer barddoni, ac mae darn o'i waith wedi goroesi sydd yn canmol safiad brenhiniaethol Syr Robert Owen yn ystod y 1690au.[2]

Plant Hugh, a'i wraig Ann Williams, merch rheithor Llandwrog, (1678-1730), oedd William (1699-1725), Jane (marw 1703), Philip (1704-1782) a briododd Mary Stodart o Ddeganwy, a Mary (1714-1789) a briododd Rice Williams, rheithor Llandwrog.

Mae Hugh ac Ann ei wraig, ynghyd â'u mab Philip a'i ferch yntau, Catherine, yn cael eu coffáu ar gofebion ar waliau Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda; ac mae carreg fedd Ellis Quellyn ar lawr yr eglwys.[3] Er bod Cwellyn mor bell o'r eglwys - tua chwech neu saith milltir - gan fod y tŷ ym mhlwyf Llanwnda, yn y fan honno y cleddid y teulu, er bod eglwysi Betws Garmon a Beddgelert yn nes o dipyn.

William Quellyn I, Ficer Caernarfon

Bu i William, mab hynaf Hugh ac Ann fynychu Coleg Sant Ioan, Caergrawnt (ac mae hyn yn dangos cyfoeth cymharol y teulu). ym Mai 1723, fe gafodd ei gyflwyno fel ficer plwyf Llanbeblig (sef y plwyf lle saif tref Caernarfon), ond byr oedd ei gyfnod gan iddo farw ymhen dwy flynedd.[4]

William Quellyn II

Priododd William, ail fab Ellis Quellyn, â Jonet Williams, o Laniestyn ym Mhen Llŷn ym 1695.[5] Cawsant ddwy ferch, un Grace a aeth, mae'n debyg i Lundain: cofnodir priodas James Williams, gŵr di-briod a Grace Quellyn, gwraig ddi-briod, y ddau o blwyf St Clement Danes, San Steffan, Llundain yn eglwys y plwyf yno, 2 Chwefror 1745.[6] Nodir fod gan William ddwy ferch, ond yn ei ewyllys (1719), enwir dim ond Grace gan Ellis Quellyn gan ei fod (meddai) wedi anghofio enw'r llall![7]

Philip Quellyn

O'r plant y genhedlaeth hon, sef plant Ellis a Grace, hyd y gwyddys dim ond Philip oedd â phlentyn, sef merch, Catherine, a fu farw yn 7 mis oed ym 1746.[8]

Yn ystod ei oes, ac yntau'n teimlo foid ganddo safle yn y gymdeithas, bu iddo fabwysiadu'r disgrifiad yswain ("Esq."), sef rheng statws yn uwch na'i dad. Bu i Philip farw ym 1782, ond rywbryd cyn hynny, yr oedd wedi symud i dref Caernarfon; nodir ei fod yn un o ddau feili Bwrdeistref Caernarfon ym 1777.[9] Roedd wedi prynu eiddo yn Stryd y Farchnad a thir arall gerllaw'r dref - yn bosibl iawn, tir lle codwyd y tŷ o'r enw Cwellyn.[10] Erbyn i Mary, chwaer Philip farw ym 1789, mae'n debygol fod y teulu wedi marw allan. Roedd gan y teulu gladdfa ym mynwent Llanbeblig ond ym 1822 adeiladwyd festri newydd dros y safle, sy'n dangos nad oedd neb o'r teulu ar ôl. Anodd, fodd bynnag yw deall pwy oedd wedi cael ei gladdu yno (os rhywun) gan fod cofeb i Philip yn Eglwys Llanwnda yn dweud ei fod wedi ei gladdu yno.

Diflaniad y cyfenw

Erbyn 1792, roedd teulu o iwmyn, Jonesiaid, wedi cymryd Cwellyn drosodd ac yn ffermio'n lewyrchus iawn, gyda 100 o ddefaid a 40 o wartheg; gweler manylion pellach dan erthygl Cwellyn.[11]

Mae'n bosibl iawn fod cyfenw'r teulu hwn bellach wedi diflannu, yn ôl tystiolaeth gwefan achyddiaeth Find My Past, lle nad oes ond un farwolaeth wedi ei chofnodi ers canrif a mwy, sef Susanna Quellyn o Fanceinion ym 1995. Mae amryw o enghreifftiau o'r cyfenw Quellin, yn arbennig yng Nghanada a'r Unol Daleithiau, ond nid oes unrhyw gysylltiad wedi ei ganfod rhwng y rhain â Chymru. Yn wir, mae lle i gredu mai cyfenw o Fflandrys yw Quellin [12] Mae cwmni o werthwyr gwin o Gaer gyda'r enw Quellyn Roberts sy'n dal i fod. Ceir cofnod yn Archifdy Swydd Gaer am forgais a wnaed gan Thomas Quellyn Roberts ym 1877.[13]


Cyfeiriadau

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgau Hafod a Garegog 225,330.
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Ystâd a Theulu Brogyntyn PQH1/2.
  3. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.220
  4. Aubrey Davies, "Llanbeblig Parish Church", (Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.20, 1959), t.26.
  5. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llaniestyn
  6. Cofrestr Plwyf St Clement Danes, 1745.
  7. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1719/63.
  8. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.229, 361.
  9. Archifdy Gwynedd, XD1/193
  10. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1782/118.
  11. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  12. Gwefan Find My Past, cyrchwyd 3.6.2019, [1]; Gwefan Oxford Reference, Artur Quellin, cyrchwyd 4.6.2019 [2]
  13. Archifdy Swydd Gaer, ZC21C/28.