Gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:30, 3 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cyffordd Tryfan yn enghraifft brin iawn os nad unigryw ym Mhrydain o gyffordd ar reilffordd drac cul lle gallai deithwyr newid trenau. Mae hi'n sefyll dwy filltir i'r de o orsaf Dinas yn y man lle arferai cangen i Rostryfan ac o'r fan honno i'r Bryngwyn wyro oddi wrth brif lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, er prin bod llawer erioed wedi aros yno i newid trenau. Mae'r adeilad wedi ei ailgodi'n ddiweddar, gan ddefnyddio'r hen ddefnyddiau hyd y gellid, ac mae trenau'n galw yno ar gais. Yr orsaf nesaf ati yw Waunfawr.


Heddiw mae'n hwb ar gyfer nifer o lwybrau, gan gynnwys llwybr ar hyd hen gangen y Bryngwyn.