Plas Newydd
Mae Plas Newydd ym mhlwyf Llandwrog yn sefyll y tu fewn i Wal Glynllifon ers i honno gael ei chodi tua 1840. Adeiladwyd tua 1632 gan Thomas Glyn (gellir gweld carreg uwchben lle tan yn y tŷ gyda ‘TG 1632’ wedi’i naddu arno), ar ôl i’r teulu symud o Blas Nantlle (Baladeulyn) yno.[1] Mae’n adeilad rhestredig hardd iawn, gyda llawer o’r nodweddion 17eg ganrif i’w gweld hyd heddiw.
Roedd y teulu'n perthyn i Glynniaid Glynllifon ond heb fod yn cyd-fynd â hwy: er enghraifft, ceid cefnogwyr y Senedd yng Nglynllifon ond cefnogwyr pybyr i Frenin Lloegr yn trigo ym Mhlas Newydd yn ystod Rhyfel y Pleidiau Seisnig (sefY Rhyfel Cartref), 1642-8 a chyfnod y Gymanwlad, 1649-60. Cangen o deulu'r Glynniaid oedd teulu Plas Newydd a symudodd o'u cartref cyntaf yn Nantlle. Bu farw'r etifedd olaf cyn diwedd y 17g.[2]
Yn fwy diweddar, ar ôl chwalfa'r rhan fwyaf o Ystad Glynllifon trwy werthiannau yn ystod ail hanner y 20g, bu'r plas yn ei dro'n gartref i deulu a gadwai adar ysglyfeithus yn rhan o'r adeilad wrth redeg parc anifeiliaid gwylltion; ac yn gartref i'r Dr Dai Roberts, meddyg wedi'i ymddeol, o Nefyn yn wreiddiol, a'i wraig Dr Sheila Roberts, arbenigwraig ar erddi Glynllifon. Mae'n parhau'n dŷ preifat heb fynediad cyhoeddus ato.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Coflein;Adroddiad o brosiect denrogronoleg 'Dyddio Hen Dai Cymreig' Ty Mawr, Nantlle
- ↑ Griffith, J. E. The Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families (Llundain, 1914)
- ↑ Gwybodaeth bersonol