Capel Brynaerau (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:59, 29 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Methodistaidd rhwng Llanllyfni a Clynnog-fawr yw Capel Brynaerau.

Mae hanes yr achos yn ardal Clynnog-fawr yn gysylltiedig gyda’r achos yng Nghapel Brynaerau. Cyn codi’r capel yn 1805, credir i Fethodistiaid yr ardal addoli yn Ysgol Sul y Bedyddwyr ym Mhontllyfni cyn cael addoldy eu hunain.

Cysylltiad gyda Capeli eraill yr ardal

Pan adeiladwyd Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr yng Nghlynnog yn 1843, cysylltwyd Brynaerau a Bwlan a parhawyd hyn hyd at 1876 pan y symudwyd Bwlan i fod yn ofalaeth ar wahân.

Cysylltwyd Brynaerau yn hwyrach gydag Ebeneser, gyda Brynaerau yn cynnal oedfa’r prynhawn a’r hwyr ac Ebeneser yn cynnal oedfa’r bore. Bu newid eto yn 1888, gydag uniad Capel Uchaf a Brynaerau ac uniad Ebeneser a Seion.

Adeilad newydd

Addaswyd yr adeilad yn 1877, pan brynwyd llecyn o dir agos i’r capel fel claddfa gyda phrydles o 99 mlynedd. Adeiladwyd darn arall ar yr adeilad yn 1879, ar ben gorllewinol y Capel, gyda cost o £550 a chafwyd mwy o waith atgyweirio yn 1896 am £160. Roedd yr addolwyr yn mynychu Capel y Bedyddwyr ym Mhontlyfni yn y cyfnod hwn[1].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 50-63