Lleuar Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:52, 17 Ebrill 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hen annedd nodedig oedd Lleuar, neu Lleuar Fawr nid nepell o Lanllyfni er ei fod ym mlwyf Clynnog Fawr. Mae'r ystyr yn amwys, ond cynigia'r arbenigwraig Glenda Carr y gall fod yn amrywiad ar Lleufer, sef 'goleuni', ac oherwydd hynny'n deillio o'r ffaith fod Lleuar ar dir agored golau.

Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef Lleuar Fawr (adeilad rhestredig) a Lleuar Fach. Roedd ar un cyfnod fod yn rhan o ystâd y Glynniaid o Lynllifon, drwy gysylltiad priodasol, ac iddo fod yn rhan o hen diroedd treflan Pennarth. Mae cofeb i William Glynne, (marw 1609), yn Eglwys Clynnog Fawr.

Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten George Twisleton, ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ryw hanner ganrif nes i'w ŵyr (ac efallai gŵr ei or-wyres Mary, y Cadben William Ridsdale ei cholli trwy or-fenthyca arian. Yn sicr, o 1720 ymlaen chafodd y teulu fawr o fudd o'r ystad gan fod y tenantiaid yn gorfod talu eu rhenti ac ati i'r morgeiswyr, ac un Samuel Shepherd yn benodol.[1] Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan ystâd Glynllifon.

Cyfeiriadau

Rhestr o adeiladau cofrestredig yng Ngwynedd, Cymdeithas Ddinesig Bangor.

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011)

Comisiwn Henebion Cymru Caernarvonshire:Volume II, Central, (Llundain, 1960)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Archifdy Glynllifon, XD2/7601-2