Thomas Pennant yn Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:44, 20 Chwefror 2026 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Eleni (2026) mae'n drichanmlwyddiant geni'r teithiwr, hanesydd, hynafiaethydd a naturiaethwr Thomas Pennant (1726-98) o'r Downing yn Sir y Fflint. Ysgrifennodd nifer o lyfrau sylweddol ar wahanol feysydd a theithiodd yn helaeth iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond yn Yr Alban, Lloegr ac Iwerddon, yn ogystal ag i rai mannau ar gyfandir Ewrop. Ffrwyth ei deithiau yng Nghymru oedd ei Tours in Wales a gyhoeddwyd mewn tair rhan. Dros y blynyddoedd ymddangosodd sawl argraffiad o'r teithiau difyr hyn ac ym 1885 cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg ohonynt, sef Teithiau yng Nghymru o waith Yr Athro John Rhŷs, Athro Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Isod ceir golwg ar ymweliad Pennant ag Uwchgwyrfai yn ystod ei deithiau a daw'r dyfyniadau a nodir o gyfrol John Rhŷs.

Thomas Pennant yn Uwchgwyrfai

Ar ôl ymweld â Beddgelert aeth Pennant ymlaen am Ryd-ddu a Llyn Cwellyn a daeth i mewn i Uwchgwyrfai drwy fwlch Drws y Coed.