Clynnog Fawr - crud ein llenyddiaeth gynnar
Am ganrifoedd yn ystod yr Oesoedd Canol bu mynachlog ac eglwys Beuno Sant yng Nghlynnog Fawr yn ganolfan bwysig ym maes llenyddiaeth Gymraeg gynnar a chynhyrchwyd nifer o weithiau pwysig yno. Yng nghanol y 13g bu Iorwerth ap Madog yn ail-lunio rhannau helaeth o'r Gyfraith Gymreig - Cyfraith Hywel - ac fe'i hystyrid yn arbenigwr yn y maes. Mewn ymchwil a gyflawnodd yn y 1950au dangosodd Dr Dafydd Jenkins fod Iorwerth yn perthyn i deulu ysgolheigaidd yn ardal Clynnog ac mae'n bosibl mai yn yr Eglwys yng Nghlynnog y bu Iorwerth yn cyflawni ei waith yn diwygio'r cyfreithiau. Perthynai beirdd yn ogystal i deulu Iorwerth a buont yn canu clodydd sawl tywysog. Un o'r rhain oedd Einion ap Madog, brawd Iorwerth, a ganodd gerdd i Gruffudd ap Llywelyn (mab i Lywelyn Fawr a thad Llywelyn ap Gruffudd) tua 1237. Roedd Gruffudd ap yr Ynad Coch, a ganodd y farwnad ddirdynnol honno yn dilyn llofruddio Llywelyn yng Nghilmeri ym 1282, hefyd yn un o'r teulu gyda'i enw'n dangos ei gysylltiad ag ynadon a chyfreithwyr. Roedd aelodau eraill o'r teulu'n gweithio fel gweinyddwyr i'r tywysogion ac yn amlwg roedd y teulu ysgolheigaidd hwn yn ystyried clerigwyr Clynnog yn geidwaid addas i ddysg a llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod.
Oddeutu canrif cyn cyfnod Iorwerth ap Madog, yng nghanol y 12g cafodd Buchedd Beuno, (sef hanes bywyd a gweinidogaeth y sant, ynghyd â'r gwyrthiau a'r traddodiadau a gysylltid ag ef erbyn yr adeg honno), ei ysgrifennu yn y scriptorium ym mynachlog Clynnog. Lladin oedd iaith y fuchedd wreiddiol, ond fe'i cyfieithwyd i'r Gymraeg yn ddiweddarach. Mae'n bosib y gellir cysylltu Clynnog hefyd â Buchedd neu Historia Gruffudd ap Cynan (c.1055-1137), a fu'n teyrnasu dros Wynedd gyfnod sylweddol tan ei farwolaeth. Lluniwyd fersiynau Lladin a Chymraeg o'r Historia hefyd. Roedd cysylltiad agos rhwng tywysogion Gwynedd â Chlynnog yn y 12g a'r 13g. Symeon o Glynnog, a fu farw ym 1152, oedd archddiacon hysbys cyntaf Cadeirlan Bangor. Roedd yn glerigwr blaenllaw yn ei ddydd ac roedd yn gweini ar Gruffudd ap Cynanan oedd hwnnw ar ei wely angau yn 1137.Efallai y bu gan Symeon ran mewn cyfansoddi'r Historia?