Iorwerth ap Madog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Iorwerth ap Madog (fl. 1240-1268) yn arbenigwr ym myd y gyfraith Gymreig yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Caiff ei enwi mewn amryw o lawysgrifau sy'n cynnwys "Dull Gwynedd" o'r cyfreithiau Cymreig. Mewn un llawysgrif fe'i gelwir yn fwy pendant yn Iorwerth ap Madog ap Rhahawd ac os felly roedd yn frawd i'r bardd Einion ap Madog. Derbyniwyd hyn gan Syr John Edward Lloyd yn ei waith pwysig A History of Wales (t.355). Byddai hynny'n ei wneud yn un o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu, y dywedir iddo ymsefydlu yng Nglynllifon oddeutu'r 9fed ganrif gan ddod yn batriarch teulu'r Glyniaid. Roedd hwnnw'n deulu a fagodd nifer o gyfreithwyr o fri mewn canrifoedd diweddarach.

Hyd yn oed cyn dyddiau Iorwerth ap Madog bu'r teulu'n ymwneud â byd y gyfraith a gweinyddu. Er enghraifft, mae'n debygol fod gor-ewythr i Iorwerth, sef Ystrwyth ab Ednywain (fl.1204-22), wedi gweithredu fel ysgrifennydd a chennad i Lywelyn Fawr. Credir mai Iorwerth ap Madog roddodd ei ffurf derfynol i "Ddull Gwynedd" o'r cyfreithiau Cymreig ac y cyfrifid ef yn ei ddydd yn awdurdod mawr ym maes y gyfraith.[1]

Cyfeiriadau

  1. Ceir ymdriniaeth lawnach ar Iorwerth ap Madog mewn ysgrif yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950 (Atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, (Llundain, 1970), t. 108.