Pen-y-groes
Y pentref mwyaf yn ardal Dyffryn Nantlle yw Pen-y-groes. Yn wir, dyma'r gymuned fwyaf yn holl gwmwd Uwchgwyrfai ers iddi ddatblygu ynnystod ail hanner y 19g., gan gysgodi pentref bychan hynaf y plwyf, sef Llanllyfni, lle'r oedd eglwys y fro a lle cynhelir ffair ers canrifoedd - a lle'r oedd nifer fwyaf o dafarnau'r dyffryn!
Ceir darlun cyfoes gwych o'r pentref pan oedd yn tyfu yn nisgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes, o'i lyfr Hen Atgofion am Ben-y-groes. Mae darn o'r llyfr yn disgrifio'r pentref tua 1870 wedi ei atgynhyrchu yn Cof y Cwmwd a gellir ei ddarllen trwy glicio yma.