Henry Howell Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:12, 23 Medi 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwasanaethai'r Dr Henry Howell Parry (1835-1907) fel meddyg a llawfeddyg ardal Dyffryn Gwyrfai am lawer o flynyddoedd wedi iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref Y Bontnewydd yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" - a godwyd rywbryd cyn 1871.[1]

Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, Llanwnda ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd Gwilym Droed-ddu. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Y Bontnewydd. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg, a hynny am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.

Priododd Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, Rhostryfan ym 1873..[2] Roedd hi'n 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn y proffesiwn o hyfforddwr ceffylau.[3]

Erbyn 1891 roedd wedi ail briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.[4] Gadawodd eiddo gwerth £1952.[5]Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.

Cyfeiriadau

  1. ↑ Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871
  2. ↑ Cofrestr briodasau plwyf Llanwnda, 1873
  3. ↑ Cofrestr priodasau plwyf Llanwnda, 1912
  4. ↑ Caernarvon and Denbigh Herald 5.4.1907, t.8
  5. ↑ North Wales Express 17.5.1907, t.3