Bryn Gwydion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:15, 19 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae fferm Bryn Gwydion ger Pontlyfni ac ym mhen mwyaf gogledd-orllewin plwyf Llanllyfni. Roedd Bryn Gwydion a nifer o diroedd gerllaw yn wreiddiol yn rhan o ystâd Plas Newydd. Safle hen annedd sydd yno, ac yn yr 17g., bu cangen o deulu Glynniaid Glynllifon a ddisgynnai o gangen Plas Newydd yn byw yma. Roedd Edmund Glynn (Bryn Gwydion) yn ynad heddwch adeg y Piwritaniaid, er nad oedd mor weithgar ar y fainc â'i gefnder o bell, Edmund Glynn o'r Hendre, Llanwnda. Tueddai Edmund Glynn sillafu enw ei gartref fel "Brynygwdion".[1]

Aeres olaf hen deulu Bryn Gwydion oedd Ellen Glynn, Bryngwydion. Gwerthodd ddarn mawr o ystâd Bryn Gwydion, sef Eithinog Wen, er mwyn codi arian i sefydlu elusen i godi elusendai i hen bobl plwyf Llandwrog. Mae Tai Elen Glynn yn sefyll hyd heddiw ger Cefn Hengwrt, Llandwrog.

Dichon bod yr enw'n hen iawn iawn, gan fod sôn am Fryn Gwydion ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi.

William Jones, Bryn Gwydion, a gyhoeddodd y gyfrol sylweddol Gweithiau Barddonol Eben Fardd, ar y cyd â Howell Roberts (Hywel Tudur), rai blynyddoedd wedi marwolaeth Eben Fardd ym 1863 - nid oes dyddiad ar y gyfrol a argraffwyd gan gwmni J.K. Douglas, Steam Printers, Stryd Fawr, Bangor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1649-1660/amryw