Gwredog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:58, 4 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gwredog yn cael ei enwi’n gynnar iawn oherwydd yr hanes (neu’r chwedl) am Cadwallon ap Cadfan, mab Cadfan Sant, yn rhoi tir Gwredog i Beuno Sant. Cododd dadl ynglŷn â hawl Cadwallon i’r tir, a symudodd Beuno ei eglwys i Clynnog. Ar dir Gwredog y mae Ffynnon Beuno. Saif tir Gwredog ar lan ddeheuol Afon Gwyrfai tua milltir a hanner o bentref Y Bontnewydd.

Mae tir Gwredog wedi rhannu rhwng Gwredog Uchaf, Gwredog Isaf, Tan’rallt (neu Gwredog Tan’rallt) o Gwredog Bach erbyn hyn, ac mae’n debyg y digwyddodd hynny fesul dipyn ar ôl i Ystad y Faenol ddod yn berchnogion yr eiddo yn y 18g.. Cyn hynny, roedd wedi bod yn rhan o Ystad Plas-yn-Bont a chyn hynny’n eiddo i Ystad Lleuar.<Gweler yr erthyglau yng Nghof y Cwmwd ar yr ystadau hynny</ref>

Cafodd John Evans a elwir fel arfer yn “John Evans, Waunfawr”, ei eni yng Ngwredog Uchaf ym 1770. Daeth yn enwog oherwydd ei waith ymysg pobl y cenhedloedd Cyntaf, sef y Mandaniaid yn America ac am fapio eu tiriogaeth.[1] Mab i deulu arall o’r Gwredog oedd Owen Jones a ddarganfu llechi yn Slatington, Pensylfania tua 1845. .[2]

Ym 1841, ceid pedwar teulu’n byw yn nhai Gwredog: John Thomas, ffermwr 65 oed a’i deulu yng Ngwredog Tan’rallt; Thomas Owens, ffermwr 60 oed a’i blant yng Ngwredog Uchaf; John Davies, gwas fferm 40 oed a’i deulu hefyd yng Ngwredog Uchaf; Hugh Owens, ffermwr 69 oed a’i deulu yng Ngwredog Isaf; a William Lewis,75 oed, a’i ddau blentyn yng Ngwredog Bach. Ymhen 10 mlynedd, roedd gweddw John Thomas, Gwen, 64 oed, ei phlant a dau was yn byw yng Ngwredog Tan’rallt; Griffith Jones, 50 oed a’i deulu a Richard Owen (oedd yn chwarelwr) a’i deulu yntau yn byw mewn dau dŷ yng Ngwredog Uchaf; Thomas Williams, 44 oed, ei deulu a phedwar o weision yn byw yng Ngwredog Isaf; a Lewis Williams (mab William Lewis), 49 oed a’i wraig yng Ngwredog Bach. Mae’r cyfrifiad yn nodi maint y ffermydd hyn: Gwredog Tan’rallt yn 50 erw; Gwredog Uchaf yn 32 erw; Gwredog Isaf yn 100 erw; a Gwredog Bach yn 47 erw. Thomas Assheton Smith o’r Faenol oedd perchennog y ffermydd hyn, heblaw Gwaredog Bach, oedd yn eiddo i Henry Rumsey Williams.[3]

Roedd Gwredog Isaf yn gartref i Gwilym Prichard a Claudia Williams, yr arlunwyr enwog, o 1980 hyd 1984 pan symudodd y cwpl i wlad Groeg, ac wedyn i Lydaw.

Cyfeiriadau

  1. Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau (I), (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t. 46
  2. Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (II), Cyf. 14 (1953)), t. 58
  3. Map Degwm plwyf Llanwnda, 1841