Melin Llifon
Sonnir am Felin Llifon mewn llyfr rhenti o eiddo plwyf Clynnog Fawr dyddiedig 1865. Roedd yn rhan o ddaliad fferm Tŷ Mawr sydd ym mhen mwyaf gogleddol plwyf Clynnog, o dan waliau Plas Glynllifon. Roedd cored ar Afon Llifon y tu fewn i waliau parc Glynllifon, ychydig i'r de-orllewin o adeiladau Plas Newydd, ac o'r gored honno yr oedd pinfarch neu ffrwd y felin yn arwain o dan y ffordd fawr ac i adeiladau fferm Tŷ Mawr, Llandwrog. Ym 1865, William Griffith oedd tenant y fferm oedd yn ymestyn i 107 acer, ac yntau hefyd oedd yn denant y felin.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma