Moduron Seren Arian

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:15, 20 Ionawr 2018 gan Huwrowlands (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Seren Arian yn un o gwmnïau bysiau lleol cynharaf, ac yn ystod ail hanner y 20g, fe elwid bysiau'r cwmni'n "fysys Nedw" ar ôl y perchennog. Y brif daith wasanaeth oedd o Gaernarfon trwy Rostryfan i Rosgadfan a'r Fron.

Lifrai olaf y cerbydau oedd glas gweddol dywyll ar hyd yr ochr, gyda glas goleuach ar y to a'r paneli isaf, a lliw hufen oddi amgylch y ffenestri. Cyn hynny, roedd cynllun tebyg, ond mewn lliw bisged, lliw caramel a hufen. Wrth i fusnes coetsys ddatblygu, gyda busnes lewyrchus o ran mynd â phobl ar wyliau, roedd y bysys mwyaf cyfforddus yn cael eu paentio mewn dau fath o wyrdd.[1]

Er i 'gartref' y cwmni fod yn Rhosgadfan, agorwyd depo ehangach tua diwedd y 20g ar Ystad Cibyn, yng Nghaernarfon. Mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth ond gyda pherchnogion newydd, ac nid ydynt bellach yn rhedeg bysiau gwasanaeth.

Cwmni Alpine sydd bellach yn gwerthu gwyliau yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol