David Thomas (Dafydd Ddu Eryri)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:18, 10 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cysylltir David Thomas (Dafydd Ddu Eryri), (1759-1822) yn bennaf â'r Waunfawr, a'i gartref cychwynnol ychydig lathenni dros ffin Uwchgwyrfai yn Isgwyrfai. Roedd ei dad Thomas Griffith, fodd bynnag, wedi bod yn bannwr ym Mhandy Glynllifon cyn symud i fwthyn Pen-y-bont yn y Waunfawr.

Roedd Dafydd Ddu Eryri yn gweithio fel gwehydd hyd 1787 pan aeth i gadw ysgol yn Llanddeiniolen, ac wedyn mewn sawl man yn y sir. Am gyfnod byr tua 1810 bu'n cadw ysgol (na wyddys fawr amdani) yn y Dolydd; dichon mai yn yr efail oedd hyn, a safai o fewn ffiniau plwyf Llanwnda.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883