Pont Betws Garmon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:37, 5 Gorffennaf 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Betws Garmon ar ffin Uwchgwyrfai, dros Afon Gwyrfai, yn cysylltu hen blwyfi Betws Garmon a Llanwnda.

Ym 1776, adroddwyd wrth y Llys Chwarter fod yr hen bont yn "annigonol, yn anghyfleus ac angen ei hatgyweirio", a rhoddwyd contract i Henry Parry, saer melinau, o Foel-y-don, Ynys Môn, i'w hailadeiladu'n llwyr, gan ei lledu. Pont saith bwa oedd hi, ac yr oedd angen lledu'r ddau fwa mawr i 18, codi dau fwa newydd mwy, un ar bob ochr i'r bwáu mawr, a thri bwa llai ar lan Llanwnda o'r afon, 6, o led yr un. Y gost am y gwaith hwn oedd £250.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau


Archifdy Gwynedd, XPlansB/168