Teulu Armstrong-Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:49, 3 Mai 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Er bod enw Teulu Armstrong-Jones wedi dod yn gyfarwydd yn Uwchgwyrfai fel perchnogion (ac, ar adegau, preswylwyr) Plas Dinas, Y Bontnewydd, cymharol ddiweddar yn wir yw eu cysylltiad â’r Plas, ac yn wir gymharol newydd yw’r cyfenw ei hun.

Ar ôl newid dwylo fwy nag unwaith, daeth y Plas yn gartref i Owen Roberts, asiant tir Ystad y Faenol. Roedd ei fab yntau, Syr Owen Roberts, yr arloeswr ym myd addysg, yn rhannu ei amser rhwng Plas Dinas a Henley Park, Guildford. Bu farw ym 1915, gan adael Plas Dinas a’r ystâd fechan a oedd yn gysylltiedig â’r eiddo i’w ferch, Margaret Elizabeth (1868-1943) a oedd wedi priodi Robert Jones (Armstrong-Jones wedi hynny) (1857-1943). Roedd Robert Jones yn feddyg dylanwadol yn Llundain ac yn fab i weinidog o Gricieth, Thomas Jones a’i wraig Jane Elisabeth Jones. Penderfynodd fabwysiadu Armstrong fel cyfenw ychwanegol yn 1913 - yr oedd Armstrong yn gyfenw mam Margaret Elisabeth cyn i honno briodi Syr Owen.

Cafodd Robert ac Elisabeth Armstrong-Jones fab, Ronald Owen Lloyd, a dwy ferch.

Mab i Ronald oedd y ffotograffydd enwog Anthony Armstrong-Jones a ddaeth yn Iarll Yr Wyddfa wedi iddo briodi â Margaret, y Dywysoges o Saesnes a chwaer Elisabeth. Brawd-yng-nghyfraith ydoedd felly i’r Frenhines Brydeinig.

Mae’r teulu’n dal â chysylltiadau â’r ardal, gan fod eiddo ganddynt yn y cylch. Mae eu beddrodau ym mynwent Llanfaglan, lle claddwyd Iarll Yr Wyddfa yn 2017.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan History Points, erthygl ar Blas Dinas, [1]; Gwefan Wikipedia ar Owen Roberts (educator), [2]; Gwefan y Bywgraffiadur ar lein, [3]; i gyd wedi eu cyrchu 03.05.2022