Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:23, 27 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pen ucha'r dyffryn o Nantlle, 1970

Dyffryn Nantlle yw prif ddyffryn Uwchgwyrfai. Mewn gwirionedd dyffryn yr Afon Llyfnwy ydyw, yn rhedeg o Ddrws-y-coed yn y dwyrain hyd aber yr Afon Llyfnwy ym Mhontlyfni. Mae'r rhan helaethaf o lawer o'r dyffryn o fewn ffiniau plwyf Llanllyfni, er bod rhai o'r mân afonydd sy'n bwydo Afon Llyfnwy'n llifo trwy rhan ogleddol plwyf Clynnog Fawr. Hefyd, hyd ail hanner yr 20g, roedd glannau gogleddol Afon Llyfnwy o Dal-y-sarn hyd pen ucha'r dyffryn ym mhlwyf Llandwrog.

Weithiau defnyddir y term "Dyffryn Nantlle" i gynnwys pentrefi megis Llandwrog, Rhostryfan, Rhosgadfan a Charmel ymysg pentrefi'r dyffryn ond, mewn gwirionedd, pentrefi yw'r rhain sydd â'u nentydd yn llifo i'r môr ger Y Foryd, ac felly mewn system arall o fân ddyffrynnoedd y maent yn sefyll mewn gwirionedd.

Heb os, prif bentref y dyffryn erbyn heddiw yw Pen-y-groes er nad oedd y fan honno'n bodoli cyn canol y 19g. Hen ganolfan y dyffryn oedd pentref Llanllyfni, lle cynhelid ffeiriau ac yno oedd yr unig eglwys yn y dyffryn ei hun.

Bu llawer o chwareli yn y dyffryn, yn cynnwys Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-yr-orsedd a nifer helaeth o rai llai. Bu cloddio sylweddol am gopr hefyd yn Nrws-y-coed.

Rhed y ffordd B4418 trwy'r dyffryn ac ymlaen i Ryd-ddu; bu hon ar un adeg yn ffordd dyrpeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma