Llyn y Gader

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:38, 13 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Llyn y Gader i'r de o bentref Rhyd-ddu ac yn dechnegol mae'r cwbl ohono y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai ond dyma darddiad Afon Gwyrfai neu fel y'i gelwir yn yr ardal, Afon Cwellyn neu Afon Llyn y Gader. Mae ffin plwyf Llanwnda ac felly ffin Uwchgwyrfai fodd bynnag yn rhedeg ar hyd ymyl y llyn am ryw hyd ger y man lle mae'r afon yn cychwyn ar ei daith o'r llyn.