Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:21, 1 Medi 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pen ucha'r dyffryn o Nantlle, 1970

Dyffryn Nantlle yw prif ddyffryn Uwchgwyrfai. Mewn gwirionedd dyffryn yr Afon Llyfnwy ydyw, yn rhedeg o Ddrws-y-coed yn y dwyrain hyd aber yr Afon Llyfnwy ym Mhontlyfni. Mae rhan helaethaf o lawer o'r dyffryn o fewn ffiniau plwyf Llanllyfni, er i rai o'r mân afonydd sy'n bwydo Afon Llyfnwy'n llifo trwy rhan ogleddol plwyf Clynnog Fawr, a hyd ail hanner yr 20g, roedd glannau gogleddol Afon Llyfnwy o Dal-y-sarn hyd pen ucha'r dyffryn ym mhlwyf Llandwrog.

Weithiau defnyddir y term "Dyffryn Nantlle" i gynnwys pentrefi megis Llandwrog, Rhostryfan, Rhosgadfan a Charmel ymysg pentrefi'r dyffryn, ond mewn gwirionedd, pentrefi yw'r rhain sydd â'u nentydd yn llifo i'r môr ger Y Foryd, ac felly mewn system arall o fân ddyffrynnoedd y maent yn sefyll mewn gwirionedd.

Heb os, prif bentref y dyffryn erbyn heddiw yw Pen-y-groes er nad oedd y fan honno'n bodoli cyn canol y 19g. Hen ganolfan y dyffryn oedd pentref Llanllyfni, lle cynhelid ffeiriau a dyna oedd unig eglwys yn y dyffryn ei hun.

Bu llawer o chwareli yn y dyffryn, yn cynnwys Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-yr-orsedd a nifer helaeth o rai llai. Bu cloddio sylweddol am gopr hefyd yn Nhrws-y-coed.

Rhed y ffordd B4418 trwy'r dyffryn ac ymlaen i Ryd-ddu; bu hon ar un adeg yn ffordd dyrpeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma