Arfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:00, 23 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arfon oedd enw'r cantref a gynhwysai gymydau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai a thiroedd yr Esgob o gwmpas Bangor, a hynny trwy Oes y Tywysogion a hyd at 1536 pan ddilewyd Cyfraith Sifil Hywel Dda (yn ei ffurf ddiweddar) gan gyfraith Lloegr. O hynny ymlaen ymdrinnid ag Arfon fel hwndrwd, sef rhaniad gweinyddol o Sir Gaernarfon at rai dibenion er, at ei gilydd, cedwid at y cwmwd fel yr uned ar gyfer penodi uwch-gwnstabliaid, codi aelodau rheithgorau mawr ac ati.

Defnyddiwyd yr enw'n gyffredinol i ddisgrifio'r ardal trwy'r canrifoedd ond dim ond ym 1974, pan ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Arfon, yr ailddefnyddiwyd yr enw i ddynodi rhanbarth llywodraeth leol. Er 1996, pan ddaeth y cyngor dosbarth i ben, mae Arfon wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar un o dri rhaniad gweinyddol Sir Gwynedd - er i Arfon er 1974 bellach gynnwys ardaloedd y tu draw i ffin Isgwyrfai, megis Abergwyngregin a Dyffryn Ogwen, a heb gynnwys rhannau o hen blwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni a dim o blwyf Llanaelhaearn.

Weithiau hefyd fe ddefnyddir yr enw'n fwy cyffredinol i ddynodi rhan ddwyreiniol Sir Gaernarfon, yn cynnwys Y Creuddyn a Dyffryn Conwy - er enghraifft yn llyfr Alun Llewelyn-Williams, Crwydro Arfon. Roedd "Arfon" hefyd yn enw ar etholaeth seneddol yn ystod hanner cyntaf yr 20g (Eifion a Bwrdeistrefi Caernarfon oedd etholaethau eraill Sir Gaernarfon).

Ystyr Arfon yw "nesaf at Ynys Môn" - gyda llys y Tywysog yn Aberffraw, digon naturiol oedd defnyddio enw Môn yn y cyd-destun hwn.