Express Motors

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:20, 7 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni bysiau a redai o Gaernarfon i gyfeiriad Y Fron yn y lle cyntaf, oedd Express Motors, a hyyny cyn yr ail ryfel byd. Sefydlwyd y cwmni ym 1907 gan Eric Jones. Fe'i alwyd y bysiau hyn yn "fysiau Robin Huw" ar dafod leferydd. Yn ystod y 1970au, rhedai'r cwmni hen fws Leyland coch, yn debyg i'r bysiau unllawr Crosville gynt. Fodd bynnag, fe werthwyd teithiau'r cwmni i gwmni arall lleol, sef Bysiau Seren Arian neu "Silver Star" yn yustod y 1970au.

Maes o law prynwyd yr enw gan y perchnogion presennol, ac o dipyn i beth ehangwyd y teithiau, yn gyntaf i leoedd eraill cyfagos megis Nantlle a Dinas Dinlle, ond yn fwy diweddar (ar ôl agor depo ym Mlaenau Ffestiniog) mor bell ag Aberystwyth, Llanrwst, Llandudno, Porthmadog a'r Bermo. Yn 2010, prynwyd pedair llwybr taith ("route") Seren Arian a arweiniai at ehangiad pellach. Erbyn 2012, roedd y cwmni'n rhedeg 25 o fysiau a 15 o goetsys.

Yn wreiddiol defnyddiodd y perchnogion newydd liwiau gwyrddlas a gwyn ar fysiau Express ond ar ôl i gwmni Arriva ddod i'r ardal gyda'i lifrai gwyrddlas, newidiwyd lliwiau Express i felyn a gwyn.

Ataliwyd pob gwasanaeth cwmni Express ar ddiwedd 2017.

Cyfeiriadau:

  • Gwybodaeth bersonol
  • Tudalen Wikipedia ar Express Motors


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma