J. Lloyd Jones, rheithor Beuno Sant
Rheithor holl blwyfi Uwchgwyrfai oedd y Parch. J. Lloyd Jones, (1966-2020). Brodor o Faesteg ydoedd. Graddiodd mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac astudiodd ymhellach i hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Wycliffe Hall, Rhydychen. Gwasanaethodd yn Eglwys Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan; yna yng Nghaerfyrddin, Bro Morgannwg a Llanilltud Fawr. Bu yn Ficer yn y Felinheli, Llanddeiniolen a Phenisa’r-waun cyn dod i ofalaeth Beuno Sant, Uwchgwyrfai i wasanaethu Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr; Eglwys Sant Twrog, Llandwrog; Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda; Eglwys Crist, Pen-y-groes; Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni ac Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn.
Bu farw’r Parchedig J. Lloyd Jones yn sydyn ac yn ddirybudd yn ei gartref, Y Rheithordy, Clynnog, ar 8 Rhagfyr 2020 yn 54 oed. Roedd o'n briod â'r Parchedig Casi M Jones. Fe’i claddwyd ym mynwent Cefn Llan, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Lleu, Chwefror 2021, yt.8