John Bryn Roberts
Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethau fel aelod seneddol a gynrychiolodd Uwchgwyrfai oedd John Bryn Roberts (1843 – 1931).
Roedd yn fab i Daniel Roberts, Llanddeiniolen ac Anne Jones, Plas Gwanas, Sir Feirionnydd. Er mai tenant ar ystad y Faenol oedd ei dad ar y pryd, roedd y teulu yn weddol gefnog, ac yn ddiweddarach prynodd ei dad ei fferm ei hun yn Nhrefarthen ar Ynys Môn.
Addysgwyd ef gartref, yna yn Ysgol Ramadeg Cheltenham. Daeth yn gyfreithiwr, ac yn 1906 yn farnwr ym Morgannwg. Yn 1918, trosglwyddwyd ef i Gylchdaith Gogledd Cymru a Chaer, lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1921.
Yn etholiad cyffredinol 1885, enillodd sedd Eifion fel ymgeisydd Rhyddfrydol, gan guro'r Ceidwadwr H.J. Ellis Nanney. Daliodd y sedd hyd 1906, pan ymddiswyddodd oherwydd ei benodiad fel barnwr y Llys Sirol yn ne Cymru. Fe'i dilynwyd gan Ellis W. Davies.
Ystyrid ef yn elyniaethus i David Lloyd George a mudiad Cymru Fydd, er ei fod fel Lloyd George yn gwrthwynebu Rhyfel y Boer. Yn groes i Lloyd George, fodd bynnag, roedd yn wrthwynebus i'r Rhyfel Mawr 1914-18.
Ni phriododd, a bu byw yng nghartref ei deulu, Bryn Adda, Bangor, gydol ei oes - er fod ganddo ail gartref yng Nghaerdydd pan oedd yn farnwr yn ne Cymru.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma