Llwyn-y-gwalch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:09, 9 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Llwyn-y-gwalch ym mhlwyf Llandwrog, ger Afon Llifon. Dyma oedd un o gartrefi mân foneddigion Uwchgwyrfai oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â theulu Glynllifon, ac yn honni bod eu tras wedi cychwyn gyda Cilmin Droed-ddu. Yn ôl yr hen achau, disgynnai'r teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef Ystrwyth ab Ednowain. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir ar Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyd nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig a'r holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Ond methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd ido farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g.ghg

Ers tair canrif a mwy,mae Llwyn-y-gwalch wedi bod yn ffermdy.Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o Fynydd Cilgwyn i lawr at y cychod yn Y Foryd; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y Dolydd a'r Groeslon. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef Melin Llwyn-y-gwalch.[1]

Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.[2] Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.[3]

Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar felin yn Llwyn-y-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.

Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon a anwyd ym Modgarad, ond a symudodd gyda'i deulu i Dyddyn Tudur ger Plas Glynllifon maes o law.[4]

Chwedl am yr enw

Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol a arferai fyw yn Grugan Wen farw ac am adael tir i'w chwe mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys fod ei fab Iago i gael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar, Morgan i gael melin, ac Ifan i gael hafod gyda'r a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall, nad oedd yn ei gymeradwyo) i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm a thir Melin Forgan, fferm Hafod Ifan, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw. Mae Grugan Wen hefyd nid nepell o'r chwe daliad tir hyn.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Yr Herald Cymraeg, 1938.
  2. Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39
  3. LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
  4. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwts, 2008), t.8
  5. Hanes y Groeslon, (2000), t.15.