Chwarel Taldrwst Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:47, 5 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi ar lethr ddeheuol Dyffryn Nantlle oedd Chwarel Taldrwst Isaf. Chwarel lechi bychan iawn ydoedd, i'r de o hen dyddyn Taldrwst Isaf, ac mae'n bosibl iddi ddefnyddio Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon - sef y dramffordd a gysylltai chwareli megis Chwarel Fronheulog â'r reilffordd fawr - i gludo ei llechi. Roedd wedi cau cyn 1888, a'r twll wedi dechrau llenwi â dŵr, yn ol yr hyn sydd yn cael ei gofnodi ar y fap Ordnans a gyhoeddwyd y flwyddyn honno.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

[[Categori:]]