Owen Griffith Owen (Alafon)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:10, 23 Mehefin 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Owen Griffith Owen (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw Alafon, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y Pant-glas, lle roedd ei dad yn cadw tafarn ond, pan oedd yn 12 oed, symudodd i fyw gyda modryb iddo ym mhentref Carmel. Dechreuodd weithio yn Chwarel lechi Dorothea, ac wedyn aeth yn glerc i Chwarel y Braich gerllaw. Bu'n flaenor yng Nghapel Carmel o 1874 ymlaen a dechreuodd bregethu ym 1876.[1]

Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, cyn symud i Goleg Y Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chafodd radd oddi yno. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i Robert Williams Parry.[2]

Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun Ymadawiad Arthur, ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn, ar y cyd â phryddest anffuddugol W.J. Gruffudd. Ymysg ei lwyddiannau barddonol eraill oedd y cywydd Mynachlog Ystrad Fflur, a enillodd y gystadleuaeth am gywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909.[3]

Bu'n olygydd Y Drysorfa, 1913-16. Cyhoeddodd ddwy gyfrol, Cathlau Bore a Nawn, barddoniaeth (1912); a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, (1915).

Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi'i daro'n ddrwg gan y crydcymalau. Fe'i claddwyd ym Mynwent Bryn'rodyn, ac mae cofeb sylweddol iddo i'w gweld yno ger y giât.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaieth Arfon, Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.249.
  2. Ceir teyrngedau sylweddol iddo yn Y Cymro (Lerpwl) ar gyfer 16 Chwefror 1916, [1]
  3. Catalog Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [2]
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.676.