Coleg Glynllifon
Coleg Glynllifon oedd y coleg amaethyddol ar gyfer Sir Gaernarfon ac wedi cael ei sefydlu'n wreiddiol ym mhlasty Madrytn ger Nefyn gan y Cyngor Sir ym 1913 fel ysgol dechnegol. Oherwydd cyflwr yr adeilad, a'r ffaith fod adeilad addas yn nes at ganol y sir ar gael, sef Plas Glynllifon, symudwyd y coleg amaethyddol, fel yr oedd hi erbyn hynny, i hen blasty Teulu Glynllifon, sef Glynllifon. Newidwyd enw'r sefydlioad i "Coleg Amaethyddol Glynllifon" ym 1954. Roedd llawer o'r tir a'r gerddi'n gymwysedig yn y gwerthiant, gan sicrhau bod fferm sylweddol ar gael at iws y myfyrwyr. Yn ogystal ag amaethyddiaeth, cynigid cyrsiau coedwigaeth a garddwriaeth, ymysg eraill. Oherwydd maint y Plas, cyflogwyd athro ysgol hefyd i fod yn drefnydd cyrsiau preswyl ar gyfer plant oed cynradd, ac yr oedd wythnos yng Nglynllifon yn ran gyson o amserlen llawer o ysgolion y sir.
Yn ogystal â'r Plas ei hun, defnyddid y stablau fel neuadd breswyl, adeilad a ymestynwyd tua 1990, gan greu porth newydd yn wynebu'r lôn o'r ffordd fawr.
Ym 1993, gyda diddymiad adrannau chweched dosbarth yn y rhan fwyaf o dde Gwynedd, cyfunwyd Coleg Glynllifon a Choleg Meirionnydd, gan agor trydedd ran i'r coleg ym Mhwllheli, i ffurfio Coleg Meirion-Dwyfor. Erbyn hyn, wedi cyfres o uniadau pellach, mae'r hyn a oedd yn Goleg Glynllifon yn un o gampysau Grŵp Llandrillo Menai.[1]
Yn fuan wedyn, tynnwyd addysg trydyddol oddi ar y cynghorau sir, a chollodd y Cyngor Sir feddiant ar y tiroedd a ddefnyddir gan y coleg, ac aeth y coleg yn sefydliad annibynnol. Bu sawl datblygiad wedyn, gwerthwyd y Plas ac adeiladwyd llawer o adeiladau newydd pwrpasol ar gyfer dysgu ac arbrofi yn ogystal ag adeiladau amaethyddol eu diben.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Rhagair i gatalog cofnodion y Coleg yn Archifdy Gwynedd.