Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:09, 18 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Llandwrog yw un o blwyfi Uwchgwyrfai.

Ffiniau a thirwedd

Mae plwyf Llandwrog yn gorwedd rhwng Llanwnda i'r gogledd a Llanllyfni a Chlynnog-fawr i'r de. Yn ei ben mwyaf dwyreiniol, mae bellach yn ffinio ar blwyf Betws Garmon, wedi i'r plwyf hwnnw 'ennill' tir oddi ar Llanwnda ym 1894, pan newidwyd llawer o ffiniau'r plwyfi, gan dorri'r cysylltiad hanesyddol rhwng ffiniau plwyfi eglwysig a ffiniau plwyfi 'sifil' a weinyddid gan gyngor etholedig. Tua diwedd y 20g, ennillwyd y tir ar drwyn penrhyn Abermenai oddi ar Llanwnda, ond dros y ganrif ddiwethaf, collwyd tir lle saif pentref Pen-y-groes, ac wedyn tir o gwmpas Garth Dorwen, (rhwng Pen-y-groes a'r Groeslon, a chwareli a phentref Nantlle, sydd bellach yn rhan o gymuned Llanllyfni.

Fe rannwyd y plwyf eglwysig tua chanol y 19g, gan godi eglwys newydd Sant Thomas rhwng Y Groeslon a Charmel i wasanaethu'r boblogaeth gynyddol ger y chwareli.

Mae'r tirwedd yn amrywio o draethau tywod a cherrig i forfa, tir gweddol ffwrythlon yn yr iseldir o gwmpas plasty Glynllifon, tir pori garw, corsydd a mawnogydd, a chopaon mynyddoedd sylweddol, gan gynnwys rhai creigiau serth megis Craig y Bera uwchben Drws-y-coed. Mae cryn coedwigo wedi digwydd o gwmpas Glynllifon, peth ohono'n blannu addurniadol; ond mae llawer o'r goedwig arall sy'n bodoli'n llwyni gwern a helyg. Efallai mai'r prif goedwig cynhenid a hynafol yw'r coedwig rhwng Gilwern a Thryfan-fawr ger Maes Tryfan, ond dichon y bu llawer mwy o goed cyn i'r tir gael ei glirio gan dyddynwyr ar yr un llaw a pherchnogion chwareli ar y llall.

Yr eglwys a'i sant

Eglwys fodern o ganol y 19g sydd ym mhlwyf Llandwrog, a godwyd ym 1860 (ynghyd â phorth y fynwent) mewn dull addurniadol wrth i'r pentref ei hun gael ei ddatblygu'n rhyw fath o 'bentref model', er mwyn difyrru llygaid yr Arglwydd Newborough, ei deulu a'i wahoddedigion wrth iddynt fynychu gwasanaethau. Yn wir, mae'r eglwys yn ymdebygu i gapel preifat tirfeddiannwr yn hytrach nag eglwys blwyf, oherwydd prinder seddau - er, erbyn hynny, mae'n debyg fod llawer o'r plwyfolion nad oeddynt yn gaeth i dir rhent neu swyddi ar ystad Newborough wedi troi at y capeli anghydffurfiol.

Dywedir fod yr eglwys bresennol wedi ei hadeiladu o gwmpas yr hen eglwys, ac wedi i'r gwaith ar y waliau gael ei gwblhau, chwalwyd yr hen eglwys gan gario'r rwbal allan trwy'r drws. Mae'n amlwg fod eglwys wedi bod ar y safle ers canrifoedd lawer, ac mae lefel y fynwent mewn cymhariaeth â'r tir amgylchynol yn awgrymu hynny. Hefyd, yn yr eglwys newydd, mae nifer o gofebion a chreiriau sy'n dyddio'n ôl mor bell â 1700. Mae'n bosibl fod yr eglwys wedi ei hailadeiladu tua'r adeg honno gan fod nifer o eitemau yn dyddio o 1700-1703, fel pe bai angen gosodiadau newydd.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Twrog, ac mae'r cysegriad hwn yn awgrymu bod eglwys, neu lan, wedi bod ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru.

Tai pwysig ac enwogion

Mae nifer o fân blastai yn y plwyf, megis Tryfan-fawr, Llwyngwalch, Bodfan, Plas Newydd a Chollfryn (Mount Hazel)], ond nid oes yr un i gymharu o ran statws, hanes na maint â [[Glynllifon}}, cartref y