Moel Rudd
Mae 'Moel Rudd yn gopa ar ystlys ddeheuol Mynydd Mawr sydd yn edrych dros Lyn Cwellyn. Saif i'r gogledd o Fwlch-y-moch. Mae'r copa yn 573 metr uwchben lefel y môr. Mae hefyd yn sefyll ar ben dwyreiniol Craig-y-bera. Ychydig o dramwyo sydd drosti a dyma, efallai, un o leoedd mwyaf diarffordd yn holl ucheldir Uwchgwyrfai.
Ar lethrau ogleddol Moel Rudd, sef ar ochr Cwm Planwydd, mae olion hen gorlannau defaid a chwt bugail.[1]
Yn aml ar fapiau'r ardal gwelir yr enw wedi ei sillafu "Foel Rudd" - sef "Y foel rudd". Mae'n debyg bod yr enw yn cyfeirio at y graig ar y mynydd, sydd â lliw cochfrown, yn tystio i'r minerau sydd ynddi.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Coflein