Cwm Coed

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:31, 24 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'r Cwm Coed yn un o brif nodweddion Parc Glynllifon. Cwm syth tua 300 llath o hyd ydyw, ac Afon Llifon yn rhedeg trwyddo. Mae'n cychwyn wrth ochr ddwyreiniol Plas Glynllifon, ac fe'i dirluniwyd i fod yn rhodfa bleserus i'r sawl oedd yn byw neu'n aros yn y Plas. Yr oedd ffynhonnau (fountains) addurniadol y ddau ben i'r Cwm Coed, ac ar hyd ochrau'r Cwm fel blannwyd llawer o goed addurniadol ac egsotig, a sawl rywogaeth o fambŵ, yn cynnwys bambŵ du sydd ond yn blodeuo unwaith mewn can mlynedd; fe flodeuodd tua 2001. Plannwyd llawer o goed caled yn wreiddiol ar lethrau'r cwm, a rhodfa o goed pisgwydd ar lawr y cwm. Ar un ochr i'r cwm, dylunwyd man chwarae i blant Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough yn y 1840au, sef Melin y Plant. Yr ochr arall i'r cwm, tyllwyd ogof addurniadol gyda tho gwydr, neu "grotto".