Porth Clynnog
Roedd Porth Clynnog yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan mwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g. Roedd y Borth gyferbyn â Gored Beuno, craig sy'n dod i'r wyneb ar gyfnodau o drai, ychydig i'r gogledd o fferm Tŷ Coch, a diddorol yw nodi bod dau odyn galch yn cael eu nodi ar fap Ordnans 1888 dim ond tafliad carreg o hen dai'r Borth. Mae'r agosaf yn cael ei ddisgrifio fel odyn galch tra bod y llall yn "old limekiln"; mae'r gwahaniaeth yn y ddau ddisgrifiad yn arwyddocaol felly, ac yn tueddu i awgrymu bod llosgi calch yn dal i ddigwydd hyd at o leiaf 1888. Nid yw'r naill na'r llall yn cael ei enwi ar fap 1900.[1] Erbyn diwedd cyfnod yr odynnau, fodd bynnag, dywedir nad oedd y lanfa ger y Borth yn hawdd mynd ati, ac felly deuai'r glo o Aberdesach, lle 'roedd glo'n cael ei lanio mor ddiweddar â 1903.[2]
Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[3]
Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19g. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[4]
Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gurn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.
Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 mae'n debyg i long gael ei hadeiladu yno, sef y Nancy, 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.[5]
Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno i'w gweld o hyd.
Ceir un neu ddau o gyfeiriadau diddorol am longau'n dod i Borth Clynnog gyda nwyddau yn nyddiaduron Eben Fardd. Ar 30 Awst 1838 mae'n sôn fel yr aeth ef i'r Borth i gyfarfod â llong a oedd wedi dod i mewn yno. Capten William Thomas oedd capten y llong fechan ac mae'n amlwg fod Eben wedi archebu papur ganddo. Gan nad oedd unrhyw un i'w weld ar ddec y llong, fe dynnodd Eben gwch bach a oedd wedi'i glymu wrth y llong i'r lan a rhwyfo ati. Ar ôl mynd ar fwrdd y llong mae'n disgrifio fel yr aeth i lawr i'r caban, a oedd mor fychan a chlos fel yr oedd bron â mygu yno. Prynodd 6 cwîr (quire) o bapur (roedd cwîr yn fesur o 25 dalen o bapur) gan y capten am bedair ceiniog a dimai yr un a dywed iddo roi ceiniog a dimai dros ben iddo yn y fargen! Rhwyfwyd y prydydd yn ôl i'r lan gan un o'r llongwyr. Drannoeth aeth at y llong drachefn, a'i ddwy ferch hynaf, Elin a Catherine, gydag ef. Dywed fod Catherine wedi dechrau crio wrth iddynt gael eu rhwyfo yn y cwch bach at y llong yng nghwmni'r capten. Drachefn, ar 29 Ebrill 1840 noda iddo fynd i lan y môr i gario potiau pridd (earthenware) o long i'r lan (nid yw'n nodi ai llong Capten Thomas oedd hon). Bu'n cadw golwg arnynt drwy'r dydd am ryw reswm ac yna'u cario adref gyda'r nos. Roedd y cyfan yn A very hard day's work yn ôl Eben. Mae'n bosib iawn mai potiau pridd i'w gwerthu yn y siop a gadwai ef a Mary ei wraig yn eu cartref, Bod Gybi, oedd y rhain. [6]
Cyfeiriadau
[6] Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, E.G. Millward (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), tt.88-9; t.128.