Porth Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:33, 30 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Borth, Clynnog, c1890

Roedd Porth Clynnog yn un o nifer o fannau dadlwytho llongau bach a gludai nwyddau (glo a chalch gan fwyaf) mor agos at y defnyddwyr ag y gallent am ganrifoedd hyd at ddechrau'r 20g. Roedd y Borth gyferbyn â Gored Beuno, craig sy'n dod i'r wyneb ar gyfnodau o drai, ychydig i'r gogledd o fferm Tŷ Coch, a diddorol yw nodi bod dau odyn galch yn cael eu nodi ar fap Ordnans 1888 dim ond tafliad carreg o hen dai'r Borth. Mae'r agosaf yn cael ei ddisgrifio fel odyn galch tra bod y llall yn "old limekiln"; mae'r wahaniaeth yn y ddau ddisgrifiad yn arwyddocaol felly, ac yn tueddu awgrymu bod llosgi calch yn dal i ddigwydd hyd at o leiaf 1888. Mae'r ddwy heb eu henwi ar fap 1900.[1] Erbyn diwedd cyfnod yr odynnau, beth bynnag, meddid nad oedd y lanfa ger y Borth yn hawdd, ac felly deuai'r glo o Aberdesach, lle 'roedd glo'n cael ei lanio mor ddiweddar â 1903.[2]

Mae'n bur debyg fod cysylltiad â chlas Beuno ar draws y bae i rannau eraill o'r tir mawr a Môn, a dichon mai agosrwydd y clas at y môr oedd yn gyfrifol i raddau am iddo gael ei ysbeilio gan y Northmyn o Iwerddon (Gwŷr Duon Dulyn) yn y 10g - os credir Brut y Tywysogion. Mae tystiolaeth fod ambell i long wedi cario nwyddau i Glynnog o'r 13g. Mae'n wybyddus fod llong o'r enw Le Geffrey wedi cario cargo o win i Glynnog ym 1520/1.[3]

Roedd pysgotwyr penwaig - ac o bosibl lledod hefyd - yn arfer hwylio allan o'r Borth ar lan y môr ger Clynnog yn y 18-19gg. Roedd gwraig Syr Ifor Williams yn cofio ei thaid yn sôn fel y byddent yn gweddïo cyn cychwyn allan.[4]

Adroddodd John Williams (John Coed), Cowrt Bach,yr hanes hwn yn 1967 (a recordiwyd i Amgueddfa Werin Cymru): "Roedd yna hen wraig yn byw yn Y Borth (tai sgotwrs) meddan nhw, ac mi fyddai ’ma beth ofnadwy o fecryll a penwaig yng Nghlynnog yn yr hen Gorad ’ma. Roedden nhw wedi dal llond y cae bron o benwaig ac fe’u gadawyd yno i ddrewi. Mi felltithiodd yr hen wraig nhw ac mi ddywedodd na fyddai penwaig yng Nghlynnog am 200 mlynedd. A fuo na ddim chwaith." Byddai ei dad yn arfer dweud bod hen dai bach yn Aberafon, Gurn Goch, yn yr hen oes - cyn ei amser ef - ac y byddai pysgotwrs yn byw yno.

Nodir yn llyfr David Thomas hefyd fod llong wedi ei hadeiladu yng Nghlynnog - efallai mai wrth geg Afon Desach neu yn Aberafon y digwyddodd hyn lle 'roedd modd lansio cwch o'r lan i'r dŵr ar adeg o lanw uchel: creigiau a cherrig sydd ar y traeth ei hun. Gydag erydiad cyson, fodd bynnag, gellid dychmygu fod yna gei ger Y Borth a fyddai wedi rhoi digon o gysgod. Ym 1780 mae'n debyg i long gael ei hadeiladu yno, sef y Nancy, 32 tunnell o faint. Fe hwyliodd hi hyd nes iddi suddo ym 1817.[5]

Erbyn hyn, mae erydiad gan y môr wedi brathu i'r tir gan adael fawr o ôl y man glanio, ond mae adfeilion bythynnod o'r enw'r Borth yno.

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans 6", 1888 a 1900
  2. Wicipedia, Erthygl ar Pontlyfni, [1], cyrchwyd 27.02.2020
  3. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), tt.2, 4, 9.
  4. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.35
  5. David Thomas, Llongau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206