Gadlys

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:06, 11 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm ym mhlwyf Llanwnda yw]r Gadlys. Fe saif ar godiad tir rhwng Glan-rhyd a [[Rhos-isaf], (SH48055798). Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw amddiffynfa llys. Mae'r enw a'i leoliad, ar dir uwch tua thri-chwarter milltir o safle Hen Gastell yn awgrymu y gallai fod cysylltiad rhwng y ddau le yn y canol oesoedd, er nad oes tystiolaeth ddogfennol ar gael.

Mae adeiladau'r fferm wedi eu codi y tu fewn i glawdd amddiffynnol o ryw fath, tua 80 llath ar draws, gyda waliau tua 12 troedfedd o uchder ar y tu allan, er bod y tir y tu mewn wedi ei godi, o bosibl, fel nad yw ond llathen o dan uchder y wal neu glawdd.

Dyma oedd