Melin Wnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:53, 19 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Wnda yn felin ŷd a wasanaethai ran isaf plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Mae'r felin yn dyddio'n ôl i 1663 yn ôl carreg ar wal yr hen felin, sy'n rhoi'r dyddiad hwnnw yn ogystal â blaenlythrennau'r perchnogion: W a F W. Mae'r llythrennau hyn yn sefyll dros William a Florence Wynn, Llanwnda.[1] Gelwid y felin ar dafod leferydd yn Melin Bengwern, gan mai ar dir ystâd Pengwern y safai ar un adeg. Mae W. Gilbert Williams yn amau fod melin ar y safle cyn 1663, a honno'n arddel yr enw Melin Bengwern, efallai, nes i ystad Pengwern gael ei rhannu rhwng teulu Wynniaid Plas Llanwnda a theulu Mynachdy Gwyn, yn ucheldir Clynnog Fawr, a gafodd dŷ Pengwern.

Roedd y felin yn derbyn dŵr o Afon Rhyd ar hyd cafn melin hir. Mae'r felin wedi rhoi ei henw i'r dreflan sydd wedi tyfu gerllaw, sef Felinwnda, sydd ag ysgol, depo tractorau a neuadd. Mae'r felin ei hun wedi ei throi'n dŷ annedd ers blynyddoedd lawer, er bod map Ordnans 1919 yn dal i ddangos yr adeilad fel melin ŷd. Fe'i gwerthwyd ym 1929, pan ddarganfuwyd hen lyfr cownt y felin dyddiedig 1879-1890, sydd yn dangos bod y cleientiaid yn cynnwys ffermwyr o blwyfi Llanwnda, Llandwrog a Llanllyfni. Mae'r llyfr cownt bellach ar gadw yn Archifdy Prifysgol Bangor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert WilliamsArfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.132