Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:58, 19 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Llanllyfni yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Yn ogystal â phentref LLanllyfni sydd yn ymestyn o lannau'r afon Llyfnwy i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: Pontllyfni ar lan y môr, Pen-y-groes (prif bentref Dyffryn Nantlle), Tal-y-sarn, Tanr'allt, Nebo a Nasareth. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref Nantlle.