Syr William Glynn, Penarlâg
Roedd William Glynn sydd yn gysylltiedig ag Ystad Penarlâg yn Sir y Fflint yn aelod seneddol dros Sir Gaernarfon wedi ei ethol ym 1659.[1] Mab ydoedd i Syr John Glynn (Y Sarsiant), ynatu'n ail fab Syr William Glynn, Glynllifon (1602-1666), cyfreithiwr llwyddiannus yn amser Cromwell, a brynodd Penarlâg fel cartref yn y 1650au. Prin oedd ei gysylltiadau fel arall gydag Uwchgwyrfai, ond arhosai peth tir yn eiddo iddo.
Fe wnaed William Glynn yn farwnig ym 1673. Trwy barhau i fyw ym Mhenarlâg, sefydlodd y teulu yno. Priododd ei or-or-wyres William Gladstone, ac mae teulu Gladstone yn dal ym Mhenarlâg.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma