Aelwyd yr Urdd Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:37, 30 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Aelwyd yr Urdd yn Y Groeslon, gan gychwyn ar safle Ysgol Penfforddelen. Roedd yr ygol wedi bod yn gweithgar ikawn yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd ac ym 1941 cafwyd ymweliad gan John Morris, AEM a awgrymodd y gellid sefydlu aelwyd yno. Cafwyd grant o £25 at ei sefydlu. Aeth un o'r athrawon, Ifor Hughes a rhai o'r bechgyn hŷn ati i baentio cwt sinc oedd ar dir yr ysgol, a bu'r aelwyd yn cyfarfod yno am rai blynyddoedd dan arweiniad Ifor Hughes. Cychwynnwyd llyfrgell yno, gyda phrifathro'r ysgol yn prynu pob llyfr Cymraeg newydd i ychwanegu ati.

Ymysg y gweithgareddau yn y blynyddoiedd cynnar, trefnwyd dosbarthiadau nos mewn pynciau megis gwaith coed, gwaith lledr a dawnsio - gerin a modern, i gyd o dan nawdd Pwyllgor Addysg Arfon. Trefnid teithiau cerdded hefyd, megis i ben yr Wyddfa, neu o Feddgelert i Borthmadog. Bu rhai o'r bechgyn yn aros yn hen ysgol Pistyll hefyd mwy nag unwaith. Ar ddechrau'r hydref, trefnid tripiau i fannau megis Manceinion neu Blackpool.

Gweithgaredd hynod boblogaidd a llwyddiannus oedd y dramâu a gynhyrchwyd gan John Gwilym Jones, ac a enillodd nifer o weithiau yng nghystadleuthau Clybiau Ieuenctid Arfon. Cynhaliwyd eisteddfodau tŷ hefyd, pan rannwyd yr aelodau'n ddau dîm, ac enilloedd côr yr aelwyd dan arweiniad J.R. Jones yn Eisteddfod yr Urdd.

Yn y man symudodd yr aelwyd i Neuadd y Groeslon ac ymysg y rhai a fu'n weithgar yn arwain neu gefnogi'r Urdd wedi i Ifor Hughes ymddeol fel arweinydd yr oedd ei fab-yng-nghyfraith, Emrys Price-Jones, Elwyn Jones Griffith, Arythur Evans ac H.R. Williams.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), tt.102-3