Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:43, 23 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Capel Uchaf, capel y Methodistiaid Calfinaidd tua milltir o bentref Clynnog Fawr ar hyd lôn Pant-glas wedi ei ddymchwel erbyn hyn, ond bu'n nodwedd amlwg o'r ardal am gant a hanner o flynyddoedd, gan roi ei enw i'r pentrefan a dyfodd o'i gwmpas, sef Capel Uchaf.

Yn y lle cyntaf, pan godwyd y capel tua 1761, arferid galw'r capel yn "Tŷ Newydd", ond yn y man daeth i'w adnabod yn syml fel "Capel" neu "Y Capel". Dyma oedd y capel cyntaf i'w godi gan y Methodistiaid yn Arfon, wedi i'r achos gael ei sefydlu yn y lle cyntaf yn nhŷ y Berth-ddu Bach tua 1747, wedi ymweliad gan Howell Harris â'r plwyf, a chyda chefnogaeth ddistaw y person, Richard Nanney, offeiriad a oedd â chryn gydymdeimlad â'r credo Methodistaidd cynnar. Pan agorwyd Capel Brynaerau (MC), hefyd ym mhlwyf Clynnog Fawr, dechreuodd yr arfer o alw'r gapel yn "Capel Uchaf".[1] Ail adeiladwyd y capel ym 1811 a thrachefn ym 1870. Fe'i gaewyd fis Chwefror 2001.

Bu Richard Roberts, (1762-1802) ymysg gweinidogion cynnar Capel Uchaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.19-21