Pont Mur y Goeden

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:45, 21 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Mur y Goeden sy'n nodi'r ffin rhwng plwyf Llanaelhaearn a phlwyf Carnguwch (sydd bellach wedi uno â phlwyf Pistyll, a chario enw Pistyll wedi'r uniad). Mae hefyd yn nodi'r ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Din-lläen, yn ogystal. felly, â'r ffin rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn.

Daw enw'r bont o enw'r tyddyn bychan gerllaw, sef Mur y Goeden. Yno, ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y trigai Thomas Williams oedd yn fasnachwr prysur i boblogaeth amaethyddol y ddwy ochr i'r Eifl.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma