Pont Mur-y-goeden

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Pont Mur y Goeden)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Mur-y-goeden ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai yn y man lle mae'r ffordd i Lŷn yn croesi o blwyf Llanaelhaearn i hen blwyf Carnguwch, ger Bwlch Siwncwl rhwng Yr Eifl a Mynydd Carnguwch. Mae'n nodi'r ffin rhwng plwyf Llanaelhaearn a phlwyf Carnguwch (sydd bellach wedi uno â phlwyf Pistyll, a chario enw Pistyll wedi'r uniad). Mae hefyd yn nodi'r ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Din-lläen, a thrwy hynny'r ffin rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn yn ogystal. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran y bont ond mae'n debygol o fod yn bur hen gan ei bod yn rhannu rhai o nodweddion hen bontydd Llŷn ac Eifionydd gyda sarnau ar bob pen.

Daw enw'r bont o enw'r tyddyn bychan gerllaw, sef Mur y Goeden. Yno, ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y trigai Thomas Williams a oedd yn fasnachwr prysur i boblogaeth amaethyddol y ddwy ochr i'r Eifl. Gwelir ei adfeilion yn amlwg o hyd a bu'n cael ei ddefnyddio fel cwt ieir hyd yn gymharol ddiweddar.